Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
24 Chwefror 2026
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/15758
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Am 13.30, croesawodd y Llywydd yr Aelodau yn ôl i’r Siambr.
Dechreuodd yr eitem am 13.32
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.34
Dechreuodd yr eitem am 15.12
Dechreuodd yr eitem am 16.01
Dechreuodd yr eitem am 16.38
Dechreuodd yr eitem am 17.15
Dechreuodd yr eitem am 18.02
NDM9161 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2026.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.06
NDM9160 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) a Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2026.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.16
NDM9162 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Magnesiwm L-threonad monohydrad) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Ionawr 2026.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.18
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM9159 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Addysg Uwch (Terfynau Ffioedd) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2026.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
14 |
13 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
Gohiriwyd yr eitem hon tan 10 Mawrth.
Dechreuodd yr eitem am 18.26
NDM9156 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai y darpariaethau yn y Bil Dioddefwyr a’r Llysoedd i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Cafodd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ei osod ar 20 Mai 2025, a chafodd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ei osod ar 5 Tachwedd 2025, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.32
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM9158 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai y darpariaethau yn y Bil Cynlluniau Pensiwn i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Troednodyn:
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mehefin 2025, a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Chwefror 2026 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
42 |
0 |
11 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 18.45
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1: Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y diffyg ystyriaeth drylwyr o oblygiadau cyfansoddiadol y Bil hwn i Gymru yn ystod y broses ddeddfwriaethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
25 |
16 |
12 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2: Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai Cymru gael pwerau llawn i ddewis deddfu neu beidio ynghylch cyfreithlondeb a gweithredu gwasanaethau marw â chymorth, fel sy'n digwydd yn yr Alban.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
13 |
15 |
25 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3: Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU, Senedd y DU a hyrwyddwyr y Bil i gynnwys darpariaeth yn y Bil i ddileu'r mater a gedwir yn ôl ynghylch y gyfraith droseddol ar hunanladdiad ym mharagraff 199 yn Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
16 |
25 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
NDM9157 Jeremy Miles (Castell-nedd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau canlynol yn y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes), i’r graddau y maent yn rhoi sylw i faterion datganoledig:
a) Cymal 4(3A) (Voluntary Assisted Dying Commissioner) (i’w fewnosod gan welliant ar ddiwedd Cymal 4, tudalen 2, llinell 29 ac wedi’i restru ym mhapur HL Bill 112-IX(b))
b) Cymal 40 (Guidance about operation of Act)
c) Cymal 42(1), (2), (5) a (6) (Voluntary assisted dying services: Wales)
d) Cymal 47(3A) (Reporting on implementation of Act) (i’w fewnosod gan Welliant 784)
e) Cymal 49 (Monitoring by Commissioner) (i’w ddiwygio gan Welliannau 804 ac 809)
f) Cymal 50(4) (Review of this Act) (i’w fewnosod gan Welliant 824)
g) Cymal 51(1), (2), (3), (5), (6) a (7) (Provision about the Welsh language)
h) Cymal 54(1), (2), (5), (6) (Regulations) (i’w ddiwygio gan Welliannau 857CA ac 872A)
i) Cymal 55(3) (Duty to consult before making regulations) (i’w fewnosod gan Welliant 877A)
j) Cymal 58(5), (7), (8) (Commencement) (i’w ddiwygio gan Welliant 905A)
2. Yn gresynu at y diffyg ystyriaeth drylwyr o oblygiadau cyfansoddiadol y Bil hwn i Gymru yn ystod y broses ddeddfwriaethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
28 |
2 |
23 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 20.35
NDM9163 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:
a) Adran 2;
b) Atodlen 1;
c) Adrannau 3 i 75;
d) Adran 1;
e) Adrannau 76 i 107;
f) Atodlen 2;
g) Adrannau 108 i 128;
h) Atodlen 3;
i) Atodlen 4;
j) Adrannau 129 i 130;
k) Teitl hir.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 20.35
NDM9172 Huw Irranca-Davies (Ogwr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru).
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
51 |
0 |
2 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 20.44
Daeth y cyfarfod i ben am 20.49
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 25 Chwefror 2026